9 llwybr edivar i garv
10 llesc o daith voregwaith vv
11 kiried gwiw keredic waith
12 kyn gwybod kain yw gobaith
13 o neb kyn dechre mebyd
14 om bro lle roeddwn am bryd
15 hwyr i kair aur grair o gred
16 hawl ir vaenawl ar vyned
17 I geisio lle tygasswn
18 hawdd hud o gawdd hyd i gwn
19 Gwaeth yw r sal gwedd tal y tir
20 Golud mwyn gweled meinir
21 Gochelais pan glowais glod
22 serch gorevrverch gyvarfod
23 [66ra] dirrgel vvdd dar gelvyddyd
24 dawn ywr bwyll a dyn or byd
25 Gydewais a hyntiais hwnt
26 priffordd y bobyl ai pryffwnt
27 kerddais ymysc y kordderw
28 kayoedd a chaeroedd vwch errw
29 o gaer y glyn i gor glwys
30 Goec lwybr rwng bron a geglwys
31 Gore treigl gariad traglew
32 kael gwyll koed tywyll tew
33 Ar draws vn yr ymdroessi
34 Er morwyn or mierri
35 astrvs gaer rriw im briwawdd
36 ysgymvn koluddvn klawdd
37 hagr dyn rvw eirion rvs
38 honno trychioleth heinvs
39 kyflym vwch glan ai danedd
40 koel gwarth kyd bai kvl i gwedd
41 dysgodd ym anoff gloffi
42 dilwydd vaint i dalodd vi
43 yn ael i gwrr ynial goed
44 Nidrodd ynghylch ynevdroed
45 kevais tramgwyddais trwom gawdd
46 Gwympio yno gamp anawdd
47 Ar ael y glyn ar avl glvd
48 yn wysc ym henn yn esgvd
49 Gwarth ir bvdr beth atreffol
50 mvrnio i vardd mae arnaf ol
51 mal i gwnai ni haeddai hedd
52 mvl dyniad mil oi danedd
53 ysgorn vlin gerwin ywr gair
54 Asgen ar vynwy esgair
55 llesc ac ysgymvn i llwyth
56 lliw o verffriw vwyarffrwyth
57 Gwden rybraff i thrafferth
58 Gwyllt poen llinyn gwallt perth
59 kas i gwaith yn kosi gwydd
60 kebystyr o grin gae kybydd
61 [66rb] koes garan ddygyn dan sygyn ser
62 kyngavoc kangav ofer
63 Tant rrwyd a vwrwyd o var
64 Telm ar lethr penn talar
65 Tytmwy ar adwy rydoedd
66 Tant koed ar nant kadarn oedd
67 Byan vo tan lvman lem
68 Brid ysgethrlid ddisgythrlem
69 llvddiodd ym annoff broffid
70 Ai llysc i ddial vy llid
dd ap gwilym ai kant